Mae Llywodraeth Cymru yn amddiffyn y penderfyniad i beidio â mynnu bod y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer swydd prif weithredwr y Llyfrgell Genedlaethol.

Daw’r amddiffyniad ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi gwthio am sicrwydd na fyddai’r amod fod y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd yn cael ei roi ar yr hysbyseb.

Mae Pedr ap Llwyd, Cymro Cymraeg, wedi ei benodi i’r swydd.

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, fe gafodd y penderfyniad ei wneud er mwyn “sicrhau bod y cyfle ar gael i’r ystod ehangaf o ymgeiswyr” ac er mwyn “sicrhau bod yr ymgeisydd gorau posib yn cael ei benodi i arwain y Llyfrgell”.

“Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn un o’n sefydliadau diwylliannol pwysicaf, ac mae penodi Prif Weithredwr newydd yn amlwg yn dasg bwysig iawn i lywydd Bwrdd yr ymddiriedolwyr ymgymryd â hi,” meddai.

“Mae’r recriwtio hwnnw yn cael ei wneud drwy ymgynghori â Llywodraeth Cymru… a bu rhywfaint o drafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a’r Llyfrgell ynghylch y penodiad pwysig hwn.

“Bwriad Llywodraeth Cymru bob amser oedd sicrhau bod y cyfle ar gael i’r ystod ehangaf o ymgeiswyr, a sicrhau bod yr ymgeisydd gorau posib yn cael ei benodi i arwain y Llyfrgell.”

Dileu ‘Cymraeg yn hanfodol’

Mae Dafydd Elis-Thomas wedi cael ei feirniadu ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod wedi gwthio am ddileu amod ‘Cymraeg yn hanfodol’ o hysbyseb ar gyfer swydd pennaeth y Llyfrgell Genedlaethol.

Daeth y wybodaeth i’r fei yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan Gymdeithas yr Iaith am y sefydliad lle mae 90% o’r staff yn medru’r Gymraeg ac yn gweithio drwy gyfrwng yr iaith yn ddyddiol.

Roedd gweinidog Llywodraeth Cymru’n “benderfynol”, meddai gwas sifil mewn e-bost mewnol, na ddylid hysbysebu’r swydd gyda’r Gymraeg yn sgil hanfodol.

Byddai’r amod, meddai, yn debygol o arwain at “ffrae gyhoeddus niweidiol”, gan fod y Llyfrgell yn mynnu bod rhaid i’r Gymraeg fod yn hanfodol ar gyfer y swydd.

Cafodd y pwysau  ei anwybyddu yn y pen draw gan Rhodri Glyn Thomas, Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, ond fe gafodd y cyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru ei rybuddio gan was sifil na ddylid anwybyddu dymuniadau Dafydd Elis-Thomas a chreu “sefyllfa Chwaraeon Cymru arall”.

‘Bygwth y Gymraeg’

“Mae ymddygiad y Gweinidog yn warthus, ac mae’n codi nifer o gwestiynau o bwys mawr sydd angen eu hateb,” meddai Bethan Williams ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn un o’r sefydliadau prin sy’n gweithio’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf. Os yw’r Gymraeg i ffynnu, mae angen mwy o sefydliadau o’r fath, nid llai.

“Byddai penodi rhywun di-Gymraeg i’r swydd wedi tanseilio statws y Gymraeg, fel iaith gwaith y sefydliad a hynny’n sylweddol iawn.

“Dyna pam ei bod hi’n gymaint o destun pryder i ni bod Gweinidog y Llywodraeth wedi mynd ati’n fwriadol i fygwth y Gymraeg yn y fath fodd.

“Mewn corff sy’n defnyddio’r Gymraeg fel prif iaith fewnol, mae’n amlwg na fyddai rhywun di-Gymraeg yn gymwys ar lefel sylfaenol i reoli ac arwain y sefydliad.”