Mae Jim Davidson yn rhoi’r holl arian o’r tocynnau ar gyfer ei sioe gomedi yn Abertawe nos Wener (Mawrth 22) i elusen sy’n helpu cyn-filwyr.

Mae’r digrifwr yn bennaeth ar elusen Care After Combat, elusen a sefydlodd yn 2016 ac sydd ag un o’i swyddfeydd yn y ddinas.

Mae’r sioe yn cael ei disgrifio fel un sy’n “ei dweud hi fel ag y mae” am gywirdeb gwleidyddol.

“Digon yw digon – mae’n bryd brwydro’n ôl” yw arwyddair y sioe.

Beirniadu Llywodraeth Cymru

Mewn neges ar ei dudalen Twitter, mae Jim Davidson yn egluro pam fod holl elw’r sioe, sydd ar daith drwy wledydd Prydain, yn mynd i’r elusen.

“Mae Llywodraeth Cymru’n eistedd ar ei waled,” meddai.

“Mae gennym fywydau i’w hachub. Grym y bobol. Rhag eich cywilydd, wleidyddion. Ewch i’r afael â’r mater.”