Mae Canolfan Cyfiawnder i Fenywod wedi cyhuddo’r heddlu o “fethiant systematig” wrth amddiffyn dioddefwyr trais domestig a rhywiol.

Dywed yr ymgyrchwyr fod heddluoedd yn methu yn eu dyletswyddau i ddefnyddio’u pwerau i ddelio gyda thrais yn y cartref, trais rhywiol, aflonyddu, a stelcian.

Mae’r cwyn i’r Arolygaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi a’r Gwasanaethau Tan ac Achub yn gwneud pedwar pwynt syn canolbwyntio ar fechnïaeth i bobol sydd o dan amheuaeth o drais rhywiol.

Ar ben hynny, mae’n edrych ar fethiannau sy’n gysylltiedig â thrais cartref a gorchmynion ataliaeth.

“Pryderus”

“Mae’r Ganolfan Cyfiawnder i Fenywod wedi bod yn bryderus nad yw’r mesurau cyfreithiol amrywiol sydd wedi’u bwriadu i ddarparu amddiffyniad i fenywod yn cael eu cymhwyso’n iawn,” dywed y ddogfen.

Yn ôl y Ganolfan hefyd, tydi’r heddluoedd ddim yn cyflawni dyletswydd i “ddiogelu rhai hynod fregus o’r boblogaeth.”

Dywed fod y mwyafrif o’r rhai o dan amheuaeth o dreisio yn cael eu rhyddhau heb amodau mechnïaeth, sy’n golygu eu bod yn cael eu gadael heb oruchwyliaeth.

Mae’r ymgyrchwyr wedi casglu’r wybodaeth gan 11 gwasanaeth blaenllaw i fenywod – datgelodd un sy’n gyfrifol am oroeswyr trais rhywiol – mai dim ond 5 allan o 120 o bobol dan amheuaeth oedd ar fechnïaeth.