Mae sefydliadau’r sector cyhoeddus sy’n defnyddio cytundebau cyfrinachedd yn eu gwneud yn llai tryloyw yn ôl Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad.

Eu honiad yw bod gwybodaeth yn cael ei hatal yn rhy aml oherwydd cytundebau sy’n eu cadw rhag eu cyrraedd.

Yn y gwaith craffu blynyddol sy’n cael ei gynnal gan y Pwyllgor, roedd cyfeiriad ar gytundebau Llywodraeth Cymru gyda chwmni ceir Aston Martin ar gyfer ei weithfeydd newydd yn Sain Tathan, ynghyd a phrosiect Cylchffordd Cymru yng Nglynebwy.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn tynnu sylw at achosion o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, lle gwnaethpwyd  taliadau cyfrinachol gwerth mwy na £140,000 i unigolion yn gadael y sefydliadau yn 2017/18.

Yn y rhain, roedd gweinidogion a swyddogion y llywodraeth wedi atal dogfennau allweddol gan atal y Pwyllgor rhag cynnal gwaith craffu cadarn.

“Hyder”

Er ei fod yn deg mewn rhai achosion, mae’r Pwyllgor yn galw am fwy o dryloywder, meddai Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus – yr Aelod Cynulliad Nick Ramsay.

“Ni ddylai’r cymalau hyn gael eu defnyddio fel safbwynt diofyn gan gyrff y sector cyhoeddus i osgoi gwaith craffu a allai godi cywilydd. Mae’n bwysig bod gan y cyhoedd hyder yng ngwariant y sector cyhoeddus,” meddai.

“Torri ei gofynion iaith Gymraeg”

Yn ôl y Pwyllgor hefyd, mae lle i feirniadu Llywodraeth Cymru yn y ffordd maen nhw’n dileu fersiwn Cymraeg y cyfrifon, sy’n dod pythefnos ar ôl yr un Saesneg.

“Mae’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi torri ei gofynion iaith Gymraeg ei hun yn bryderus ac yn siomedig,” meddai Nick Ramsay.

“Byddem yn disgwyl i’r llywodraeth osod esiampl gadarnhaol o ran bodloni’r gofynion y mae’n eu gosod ar gyfer cyrff cyhoeddus eraill.”