Mae oedolion Cymru yn barod i roi cefnogaeth i uchelgais ailgylchu a helpu’r wlad i gyrraedd brig Cynghrair Ailgylchu’r Byd, yn ôl arolwg.

Mae’r arolwg wedi ei gynnal i nodi Diwrnod Ailgylchu Byd-eang heddiw (Dydd Llun, Mawrth 18), ac yn dangos bod bron i dri chwarter o oedolion Cymru, 74%, yn debygol o wneud mwy o ymdrech i ailgylchu.

Ar hyn o bryd, mae Cymru yn drydydd ar siart y gwledydd sy’ n ailgylchu orau yn y byd tu ôl i Singapore a’r Almaen.

O’r rhai a holwyd, dim ond un mewn tri, 34%, oedd yn ymwybodol o hyn, er i 57% ddweud eu bod yn falch o’r llwyddiant.

Mae’r arolwg yn datgan hefyd bod mwy nag un traean o oedolion Cymru, 36%, yn ailgylchu i warchod yr amgylchedd i genedlaethau’r dyfodol, a byddai 34% yn ailgylchu oherwydd mai dyna’r ‘peth iawn i’w wneud.’

Byddai’r newidiadau yma’n gwneud gwahaniaeth mawr wrth ystyried fod 63% o Gymry yn ailgylchu eu gwastraff.

Yn ôl Carl Nichols, Pennaeth WRAP Cymru sy’n rhedeg ymgyrch Ailgylchu dros Gymry “nid yw’n syndod” bod y rhan fwyaf o Gymry “eisiau helpu Cymru i fod y genedl orau yn y byd am ailgylchu.”

“Rydym eisiau gwarchod ein gwlad brydferth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, rydym eisoes ymysg y gorau yn y byd am ailgylchu, ac rydym wedi dod yn bell iawn yn barod,” meddai.

Mae mwy o fanylion am sut mae helpu I gael Cymru i frig Cynghrair Ailgylchu’r Byd www.recycleforwales.org.uk/cy/lleoliad-ailgylchu-1