Mae tân mewn bloc o ffatiau yng nghanol dinas Abertawe bellach wedi ei ddiffodd, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Alexandra toc cyn 6.45yh ddoe (dydd Sul, Mawrth 17) yn dilyn adroddiadau o dân ar do adeilad 14 llawr.

Fe lwyddodd ymladdwyr tân i ddiffodd y fflamau o fewn dwy awr, gyda’r gwasanaeth tân yn gadael y safle toc ar ôl 8.30yh.

Fe wnaeth swyddogion hefyd archwilio’r adeilad, ond does dim gwybodaeth ar hyn o bryd ynglŷn â beth achosodd y tân.

Does dim adroddiadau bod unrhyw un wedi eu hanafu yn ystod y digwyddiad.