Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £12m ar gyfer prosiect i “foderneiddio a gwella” gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gorllewin.

Yn ôl y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, bydd yr arian yn cefnogi amrywiaeth o fentrau sy’n ceisio symud gwasanaethau o’r ysbyty i gartrefi a chymunedau.

Bwriad hyn yw ei gwneud hi’n haws i bobol gael gafael ar y gofal sydd ei angen arnyn nhw, i aros yn iach a chadw eu hannibyniaeth, meddai.

Bydd y cyfan yn cael ei arwain gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru, a’r prosiect yw’r diweddaraf i dderbyn cyllid o gronfa gwerth £100m a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru.

“Gyda disgwyliad oes yn codi a heriau iechyd y cyhoedd yn parhau, bydd ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu mwy o alw fyth arnyn nhw yn y dyfodol,” meddai Vaughan Gething.

“Er mwyn diwallu’r galw hwnnw, mae’n rhaid i ni drawsnewid y modd yr ydym yn darparu gofal yn y dyfodol”.