Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod corff wedi cael ei ganfod ym Mro Morgannwg.

Cafodd swyddogion eu galw i Drwyn yr As, sydd ar arfordir Bro Morgannwg, fore ddoe (dydd Sul, Mawrth 17).

Er nad yw’r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, mae teulu Elin Boyle, 43, o Gaerdydd wedi cael eu hysbysu.

Dydy’r athrawes yn Ysgol Plasmawr yn y brifddinas heb gael ei gweld ers dydd Mawrth yr wythnos ddiwethaf (Mawrth 12).