Fe fydd tîm rygbi Cymru’n cael eu croesawu i’r Senedd yfory (dydd Llun, Mawrth 17) ar ôl iddyn nhw gipio’r Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Roedden nhw’n fuddugol o 25-7 yn erbyn Iwerddon yn y gêm olaf yng Nghaerdydd ddoe (dydd Sadwrn, Mawrth 16), gan ymestyn eu rhediad di-guro i 14 o gemau.

Yno yn y Senedd i’w croesawu’n swyddogol fydd Ann Jones, Dirprwy Lywydd y Cynulliad, a Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.

Y Cynulliad a Llywodraeth Cymru sy’n cynnal y derbyniad ar y cyd.

Bydd cyfle i’r cyhoedd weld y garfan a’r tîm hyfforddi ar risiau’r Senedd am 5 o’r gloch.

‘Braint’

“Ein braint ni yw croesawu tîm rygbi llwyddiannus Cymru yn ôl i’r Senedd i gael dathlu a dangos ein gwerthfawrogiad iddyn nhw,” meddai Ann Jones.

“Mae eu llwyddiant yn ysbrydoliaeth i ni gyd ac yn gyfle i ni ymfalchïo yn noniau chwaraeon Cymru.

“Mae Warren Gatland a’i garfan wedi codi ein cenedl unwaith eto ac mae addas ein bod yn diolch iddynt am hynny.”

‘Llwyddiant anhygoel’

“Mae hwn yn lwyddiant arall anhygoel i’r tîm wrth gwrs, gyda chefnogaeth wych cefnogwyr Cymru,” meddai Mark Drakeford.

“Mae’n addas iawn ein bod yn dathlu’r gamp lawn hon gyda’n gilydd ac rwy’n gobeithio y bydd llawer ohonoch yn gallu ymuno â ni yn y dathliadau nos Lun.

“Am ddiweddglo Chwe Gwlad i Warren – teitl arall a’r Gamp Lawn am y trydydd tro sy’n record! Mae Cymru bellach wedi ennill 14 buddugoliaeth ddiguro mewn cyfres – record arall – ac ysbrydoliaeth i’n darpar chwaraewyr ar draws y wlad.

“Rwy’n dymuno’n dda i’r holl garfan am weddill y tymor wrth iddynt ddychwelyd i’w clybiau a’u rhanbarthau ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn Siapan yn ddiweddarach eleni yng Nghwpan y Byd.”

‘Hynod ddiolchgar’

“Mae’r garfan a’r tîm rheoli wedi ein gwneud yn genedl falch ac rydym yn hynod ddiolchgar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am nodi’n llwyddiant a galluogi’r cefnogwyr i ymgynnull i ddangos eu cefnogaeth,” meddai Martyn Phillips, prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru.

“Mae’n anrhydedd mae carfan 2019 yn ei haeddu, ac yn un bydd yn meddwl y byd i’r chwaraewyr.

“Yn yr un modd, mae cannoedd o unigolion ar draws rygbi Cymru wedi cyfrannu at y llwyddiant hwn a dylai pawb sy’n cymryd rhan yn y gêm ar bob lefel rannu perchnogaeth o’r cyflawniadau, a myfyrio gyda balchder ar ddiwrnod arbennig i’n gem genedlaethol.”