Mae dyn 21 oed wedi cael ei gyhuddo o fynd ar y cae yn ystod gêm bêl-droed Abertawe yn erbyn Manchester City neithiwr (nos Sadwrn, Mawrth 16).

Fe fydd Harry Eccles o Gonwy yn mynd gerbron ynadon Abertawe ar Ebrill 2.

Mae dau lanc – un 15 oed o Bury ac un arall 16 oed o Abertawe – wedi cael rhybudd ieuenctid.

“Mae diogelwch cefnogwyr, chwaraewyr, swyddogion a’r sawl sy’n gweithio yn y gemau hyn o bwys mawr.

“Byddwn yn parhau i gydweithio â’r clwb pêl-droed er mwyn atal yr ymddygiad annerbyniol hwn gan leiafrif bach rhag parhau.”