Mae disgwyl i’r tywydd wella’n sylweddol ledled Cymru dros y dyddiau nesaf, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Daw’r newyddion ar ôl i bentref Capel Curig weld 136.6mm o law yn cwympo – gwerth mis o law – mewn un diwrnod ddoe (dydd Sadwrn, Mawrth 16).

Ac roedd y gwyntoedd cryfion yn Llyn Efyrnwy, yn codi i 73 milltir yr awr ar adegau.

Roedd nifer o ardaloedd ar hyd afon Conwy dan droedfeddi o ddŵr.

Mae disgwyl na fydd rhybuddion melyn yn eu lle erbyn tua 9 o’r gloch heno (nos Sul, Mawrth 17).