Mae tri llanc wedi cael eu harestio am gamu ar gae Stadiwm Liberty yn ystod gêm gwpan Abertawe yn erbyn Manchester City neithiwr (nos Sadwrn, Mawrth 16).

Mae’r tri – dau lanc 15 oed ac un sy’n 16 oed – yn y ddalfa ac yn wynebu gwaharddiad rhag mynd i gemau pêl-droed pe baen nhw’n cael eu cyhuddo.

Collodd Abertawe o 3-2 wrth iddyn nhw geisio cyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan FA Lloegr.

“Mae diogelwch cefnogwyr, chwaraewyr, swyddogion a’r sawl sy’n gweithio yn y gemau hyn o’r pwys mwyaf,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Mae’r sawl sy’n mentro i’r cae chwarae yn troseddu, byddan nhw’n cael eu trin yn llym ac fe allen nhw wynebu gwaharddiad hir rhag mynd i gemau pêl-droed.

“Byddwn ni’n parhau i gydweithio â’r clwb pêl-droed i atal yr ymddygiad annerbyniol hwn gan leiafrif bach iawn rhag parhau.”

Nifer o achosion diweddar

“Mae wedi digwydd sawl gwaith yn ddiweddar ac mae’n destun pryder oherwydd yn y dyfodol, fe allen ni gael problemau,” meddai Pep Guardiola, rheolwr Manchester City.

“Dydy hi ddim yn beth braf, ond diolch byth na ddigwyddodd unrhyw beth y tro hwn.”

Daw ei sylwadau wythnos yn unig ar ôl nifer o ddigwyddiadau treisgar ar gaeau pêl-droed Lloegr a’r Alban.

Cafodd Paul Mitchell, cefnogwr Birmingham, ei garcharu am daro Jack Grealish, capten Aston Villa, yn ystod gêm ddarbi ddydd Sul diwethaf.

Ymosododd cefnogwr Arsenal ar Chris Smalling, amddiffynnwr Manchester United, ac fe lwyddodd cefnogwr Hibernian i gyrraedd James Tavernier, capten Glasgow Rangers, ddeuddydd cyn hynny.