Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth am ferch 15 oed sydd ar goll o Landudno.

Cafodd Lilly Geu o Fae Penrhyn ei gweld ddiwethaf yn ardal Bae Colwyn.

Mae hi’n 5’4″ a chanddi wallt brown a gwyrdd at ei hysgwyddau, a chroen sy’n cael ei ddisgrifio fel “llwydaidd”.

Pan gafodd ei gweld ddiwethaf, roedd hi’n gwisgo top a throwsus Nike du a chôt wlân.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.