Mae rhybudd melyn am law trwm parhaus, llifogydd a gwyntoedd cryfion yng Nghymru heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 16).

Mae darogan y gallai hyd at 100mm o law gwympo ar dir uchel yn y gogledd, ac rhwng 40-70mm mewn mannau eraill drwy’r wlad.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gallai cartrefi a busnesau ddioddef yn sgil llifogydd.

Mae’r rhybudd yn un o bump drwy wledydd Prydain yn ystod y dydd heddiw.

Fe allai gwyntoedd cryfion gyrraedd cyflymdra o 45-55m.y.a., a hyd at 65m.y.a. mewn ardaloedd arfordirol.

Mae rhybudd y gallai amodau gyrru fod yn beryglus, ac y gallai teithwyr wynebu oedi.