Mae golwg360 wedi cael cadarnhad swyddogol fod y cwmni adeiladu, Grŵp Dawnus, wedi cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.

Mae’r busnes, sydd â phencadlys yn Llansamlet, yn gwmni adeiladu rhyngwladol, ac yn cyflogi 700 o bobol yng ngwledydd Prydain.

Bu pryderon ynghylch dyfodol y cwmni wrth i waith ar brosiectau yn Abertawe a Manceinion ddod i stop yr wythnos hon yn dilyn honiadau gan isgontractwyr nad oedden nhw wedi cael eu talu.

Mewn datganiad, dywed cwmni Grant Thornton UK LLP eu bod nhw wedi cael eu penodi’n weinyddwyr dros ganghennau’r grŵp yng ngwledydd Prydain, ond nid y canghennau tramor.

“Mae Grŵp Dawnus wedi cael trafferthion gyda nifer fawr o heriau, ac er gwaeth ymdrechion sylweddol i achub y busnes, dyw hynny ddim wedi bod yn bosib, yn anffodus,” meddai Alistair Wardell o Grant Thornton.

“O ganlyniad, mae llif ariannol ar gyfer y dyfodol yn golygu nad yw’r busnes yn gallu parhau i weithredu, gan gynnwys cwblhau prosiectau sydd eisoes wedi dechrau.

“Er nad yw trafferthion ariannol y grŵp o ganlyniad i Brexit, does dim amheuaeth bod yr ansicrwydd ynghylch Brexit wedi effeithio ar y gallu i achub y busnes.”

“Penderfyniad anffodus”

Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, yn dweud bod “Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n glos â Dawnus, HSBC Bank a Banc Datblygu Cymru dros fisoedd lawer er mwyn osgoi’r penderfynid anffodus hwn gan Fwrdd Dawnus.

“Yn 2018, rhoddodd Llywodraeth Cymru fenthyciad masnachol i Dawnus er mwyn ei helpu â’i lif arian dros y tymor byr.

“Er gwaethaf hyn a chais i’r farchnad fasnachol gyda chefnogaeth cynllun adfer, rwy’n deall nad yw Dawnus wedi llwyddo i gael hyd i unrhyw gymorth ariannol arall ar gyfer ei sefyllfa ariannol fregus ac nad yw chwaith wedi cael hyd i brynwr allai achub y cwmni.

“Mae’r busnes yn cyflogi 700 o bobl ar nifer o safleoedd ledled y DU ac yn ei bencadlys yn Abertawe.

“Caiff y penderfyniad trist hwn effaith arwyddocaol hefyd ar fusnesau bach a chanolig yn y gadwyn gyflenwi.  Mae llawer o’r rheini’n fusnesau yng Nghymru.

“Mae swyddogion Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda Bwrdd Dawnus a’r gweinyddwyr i greu cronfa ddata o gredydwyr y busnes i’w dadansoddi i werthuso’r effaith lawn ar y gadwyn gyflenwi yng Nghymru.

“Rydyn ni’n barod i drefnu pecyn o gyngor ReAct, DWP a Gyrfaoedd Cymru i roi help i unigolion a chwmnïau y mae’r penderfyniad hwn wedi effeithio arnyn nhw.

“Mae gan y cwmni nifer o gontractau byw â’r sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys ysgolion, cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd a phrosiectau seilwaith ac mae fy swyddogion yn gweithio gyda chydweithwyr yn adrannau Llywodraeth Cymru i gadw’r effaith mor fach â phosib.

“Fe wnawn ni bopeth yn ein gallu i helpu pob cwmni a gweithiwr.”

Galw am ystyried “pob opsiwn”

Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried “pob opsiwn” er mwyn diogelu swyddi sy’n gysylltiedig â chwmni adeiladu Dawnus.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, llefarydd grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad ar yr Economi a Chyllid, mae eisoes wedi anfon llythyr at Lywodraeth Cymru yn galw arnyn nhw i weithredu ar frys.

“Mae eisiau edrych, os oes modd, ar achub y cwmni yma fel gowing concern yn fwy na dim,” meddai Rhun ap Iorwerth wrth golwg360.

“Mae o’n gyflogwr pwysig yng Nghymru; mae o’n gontractiwr pwysig yng Nghymru; mae’r gwaith y mae o’n ymwneud ag o yn waith pwysig yng Nghymru ac mae yna lawer o swyddi’n ddibynnol arno fo yn uniongyrchol ac anuniongyrchol.

“Os felly, mae eisiau gwneud fel y dylid ei wneud gyda phopeth tebyg ac edrych ar ba fath o gymorth ariannol mae’r Llywodraeth yn gallu ei roi, a pha fath o gymorth ariannol y mae’r Llywodraeth yn gallu ei ganfod, er enghraifft, drwy Fanc Cymru.

“Oes yna hefyd gyd-fuddsoddiad sy’n werth ei wneud gan Lywodraeth Cymru yn y cwmni yma?

“Dyna beth ydw i’n ei feddwl wrth edrych ar bob opsiwn, sef bod yn arloesol a meddwl ychydig y tu allan i’r bocs.”