Mae ymgyrchwyr iaith wedi beirniadu Cyngor Gwynedd am beidio cysylltu gyda Llywodraeth Cymru i drafod cwtogi ar grant i gynnal Canolfannau Iaith y sir.

Mae’r cyngor yn derbyn £61,000 yn llai gan y Llywodraeth i redeg y canolfannau sy’n helpu plant di-Gymraeg i gael eu trochi yn y Gymraeg cyn dychwelyd i’w hysgolion lleol i dderbyn addysg Gymraeg.

Bwriad Cabinet y cyngor yw torri £96,000 o gyllideb y canolfannau o fis Medi ymlaen.

Maen nhw’n gorfod torri, medden nhw, oherwydd eu bod nhw’n derbyn £61,000 yn llai gan Lywodraeth Cymru at gostau rhedeg y canolfannau, ac yn gorfod ymdopi gyda chynnydd mewn costau pensiwn.

Yr wythnos ddiwethaf (Mawrth 7), fe bleidleisiodd aelodau o Gyngor Gwynedd yn erbyn torri arian y canolfannau hyn.

‘Dim gohebiaeth’

Mae cais rhyddid gwybodaeth gan Gylch yr Iaith wedi datgelu na fu unrhyw ohebiaeth rhwng Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru ynglŷn ag ariannu’r gwasanaeth o fewn y sir.

Er hyn, mae Cyngor Gwynedd yn mynnu eu bod wedi trafod y mater “ar lafar” gyda’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, a swyddogion Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy’n gyfrifol am lobïo Llywodraeth Cymru ar ran cynghorau lleol.

“Mae staff y Canolfannau Iaith, ynghyd â’u teuluoedd, yn dioddef ansicrwydd am eu swyddi ers cychwyn yr ymgynghoriad mewnol ar ddyfodol y canolfannau chwe mis yn ôl,” meddai llefarydd Cylch yr Iaith.

“Roedd Arweinyddiaeth y Cyngor a’r Adran Addysg yn amlwg yn gwybod am y diffyg yng nghyllideb y Canolfannau ymhell cyn hynny oherwydd roeddent wedi paratoi opsiynau o flaen llaw er mwyn i staff y canolfannau eu hystyried fis Hydref y llynedd. Ac eto, does dim gohebiaeth wedi ei chynnal efo Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn anhygoel.

“Mae Cyngor Gwynedd yn dweud bod y Cynghorydd Gareth Thomas, yr Aelod Cabinet Addysg, wedi codi’r mater ‘ar lafar’ gyda Kirsty Williams, ond beth ydy ystyr hynny?

“A oedd gan yr Aelod Cabinet Addysg ddogfennau wedi eu paratoi ac i’w cyflwyno i’r Gweinidog. A beth am gofnodion o’r sgyrsiau hynny?

“Bydd Cylch yr Iaith yn gwneud cais i dderbyn yr wybodaeth hon. Mae yna lawer o gwestiynau i’w hateb.”

“Wedi gweithredu’n briodol a chywir”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd:

“Mae’r honiad na wnaeth y Cyngor rannu manylion am y diffyg ariannol gyda staff y canolfannau iaith tan fis Hydref yn anghywir.

“Y gwir ydi fod staff wedi eu gwahodd i gyfarfod ym mis Medi 2018 er mwyn eu hysbysu o sefyllfa gyllidol y Canolfannau Iaith o 2019/20 ymlaen.

“Yn ystod y cyfarfod, gwahoddwyd y staff i ddod ynghyd i ystyried ym mha fodd y gellir ail-strwythuro’r gwasanaeth i’r dyfodol i gyfarch y diffyg yn y gyllideb.

“Yn dilyn y cyfarfod hwn, fe’n hysbyswyd nad oedd staff y Canolfannau Iaith yn awyddus i greu opsiynau eu hunain ar gyfer strwythur y gwasanaeth i’r dyfodol.

“Yn hytrach, eu dymuniad oedd i’r Adran Addysg ystyried a chreu’r opsiynau, gyda chyfle iddynt hwy fynegi barn a chyflwyno sylwadau ar yr opsiynau hynny.

“Ar 24 Hydref 2018, cynhaliwyd cyfarfod rhwng yr Adran Addysg, Adnoddau Dynol, staff y Canolfannau Iaith, ynghyd â’u cynrychiolwyr Undeb i gyflwyno opsiynau er ystyriaeth ganddynt am gyfnod ymgynghori ffurfiol hyd at 30 Tachwedd 2018.

“Dylid nodi hefyd ein bod wedi dilyn proses Adnoddau Dynol ar gyfer ymgynghori’n ffurfiol gyda’r staff a’u cynrychiolwyr undeb.

“Roedd y cyfnod ymgynghori cychwynnol ar sawl opsiwn ar gyfer ail-strwythuro’r gwasanaeth yn ymestyn o 24 Hydref hyd at 30 Tachwedd, ac yn sgil cais gan yr undebau estynnwyd y cyfnod hyd at 10 Rhagfyr 2018.

“Yn dilyn mynychu’r Pwyllgor Iaith, a’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ym mis Ionawr, ar ôl ystyried sylwadau’r ymgynghoriad ffurfiol a gynhaliwyd cyn y Nadolig, ym mis Chwefror cyflwynwyd opsiwn oedd dan ystyriaeth ar gyfer ymgynghori’n ffurfiol eto gyda’r staff a’r undebau, gyda’r cyfnod ymgynghori yn ymestyn hyd mis Mawrth 2019.

“Tra’n cydnabod fod ymgynghori ar newid o unrhyw fath yn anorfod yn creu pryder i staff, rydym yn hyderus ein bod wedi gweithredu’n briodol a chywir ac mae’r staff i gyd wedi cael cynnig cefnogaeth o ran ‘delio gyda newid’ a chwnsela gan yr Adran Addysg yn ystod y cyfnod.

“O safbwynt cyllid gan y Llywodraeth i gefnogi’r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, mae’r drafodaeth gyda’r amrywiol Weinidogion yn un barhaus.”