Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi cynllun gwerth £32m i leihau llygredd aer a gwella tagfeydd o fewn y ddinas.

Daw’r cynigion mewn ymateb i her gyfreithiol gan yr arbenigwyr amgylcheddol, Client Earth, yn erbyn Llywodraeth Cymru.

Mae’r her wedi rhwymo awdurdodau lleol yn gyfreithiol i weithredu er mwyn gostwng lefelau llygredd i lefel gyfreithlon erbyn 2021.

Y cynllun

Mae arolwg annibynnol yn dangos bod un stryd o fewn y ddinas, sef Heol y Castell, yn debygol o fethu â chydymffurfio â chyfyngiadau’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer lefel y nitrogen deuocsid (NO₂) ar ôl 2021.

Mae’r Cyngor hefyd yn pryderu am ardaloedd eraill o fewn y ddinas lle mae lefel y llygredd yn agos at y cyfyngiadau cyfreithiol.

Ymhlith y cynigion sy’n cael eu hystyried gan gynghorwyr mae:

  • Disodli’r bysus hynaf yn y ddinas sy’n llygru fwyaf gyda bysus trydanol;
  • Cyflwyno cynllun ar gyfer gweithredwyr bws i ddiweddaru bysus hŷn er mwyn iddyn nhw gyrraedd safonau’r Undeb Ewropeaidd;
  • Gwneud “newidiadau mawr” yn Stryd y Castell a Heol y Porth a chylch canol y ddinas fel bod modd i drafnidiaeth gyhoeddus symud yn fwy effeithlon;
  • Adolygu a gweithredu polisi tacsi diwygiedig, er mwyn sicrhau trwyddedau penodol i gerbydau sy’n cyrraedd safonau’r Undeb Ewropeaidd.
  • Pennu rhagor o ardaloedd 20 milltir yr awr o fewn y ddinas.

Cynnal ymgynghoriad

Mae’r Cyngor yn bwriadu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o chwe wythnos rhwng Ebrill 3 a Mai 15.

“Bydd angen cymeradwyaeth pellach ar gynlluniau unigol sy’n cael eu cynnig yn y mesurau hyn cyn bwrw ymlaen â nhw,” meddai’r Cynghorydd Caro Wild, aelod o’r Cabinet sy’n gyfrifol am Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth.

“Ar hyn o bryd, cynlluniad cysyniadol ydyn nhw ac rydyn ni’n cynllunio cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mesurau a gynigir yn yr achos busnes.

“Nid yw manylion penodol y cynlluniau cymhelliant posibl ar gyfer y diwydiant tacsi wedi eu cadarnhau eto, ond mae cais wedi ei wneud am gyllid yn yr achos busnes i Lywodraeth Cymru.”