Bydd £10m yn cael ei fuddsoddi er mwyn mewn gwella’r gofal sydd ar gael ar gyfer cleifion sy’n dioddef o ganser.

Mewn datganiad, dywed Llywodraeth Cymru mai’r nod yw “gwella ansawdd gofal, lleihau amrywiad a gwella’r canlyniadau i gleifion”.

Bydd yr arian yn cael ei wario ar dri maes, gyda’r bwriad o leihau amseroedd aros am driniaeth canser, sicrhau diagnosis cynharach, a moderneiddio triniaethau.

Bydd £3m yn cael ei wario er mwyn cefnogi gwasanaethau diagnostig, gan gynnwys endosgopi a radioleg, ynghyd â thriniaethau newydd fel therapi genynnol a chelloedd.

Bydd £3m arall yn mynd tuag at wasanaethau adsefydlu, gyda’r cyllid hefyd yn cael ei ddefnyddio i asesu sut mae gwasanaethau yn cael eu darparu ar hyn o bryd.

“Bydd yr arian a gyhoeddais heddiw yn sicrhau bod gwasanaethau iechyd Cymru yn datblygu atebion arloesol ac yn gwneud yn siŵr bod cleifion yn cael y gorau allan o’r gwasanaethau iechyd,” meddai’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

“Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i greu ffyrdd gwell o ddarparu gwasanaetha; yn darparu gofal cyson ar draws Cymru, ac yn arwain at well ganlyniadau i bobol Cymru.”