Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod corff wedi ei ddarganfod wrth iddyn nhw chwilio am ddyn 22 oed o Bowys sydd ar goll.

Does neb wedi gweld Sean Miller ers Chwefror 2.

“A thristwch, mae Heddlu Dyfed-Powys yn cadarnhau bod corff wedi cael ei ganfod yn ystod yr ymdrech i chwilio am Sean Miller o’r Drenewydd,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Rydyn yn anfon ein cydymdeimlad at y teulu, sydd wedi cael ei hysbysu am y datblygiad. Maen nhw ar hyn o bryd yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

“Mae’r crwner wedi cael ei hysbysu, ac nid yw’r corff wedi ei nabod yn ffurfiol hyd yn hyn.”