Bydd ymgeisydd Plaid Cymru yn ei le i herio sedd Dafydd Elis-Thomas erbyn diwedd Mehefin.

Dyna mae Gwerfyl Jones, Ysgrifennydd pwyllgor rhanbarthol Dwyfor Meirionydd a’r swyddog dynodedig ar gyfer yr etholiad, yn ei ddweud wrth golwg360.

Bydd enwebiadau yn agor ar Ebrill 1, meddai, gyda dwy gynhadledd ddewis i ddilyn ar ddiwedd mis Mai a/neu ddechrau mis Mehefin.

Yn ystod y cynadleddau hyn, mi fydd aelodau’r etholaeth yn cael cyfle i bleidleisio am yr ymgeisydd yr hoffen nhw ei weld yn cynrychioli’r rhanbarth yn etholiad y Cynulliad 2021.

“Rydan ni’n edrych ymlaen at gael ymgeisydd yn ei le, neu yn ei lle, erbyn yr haf,” meddai Gwerfyl Jones.

Daw hyn i’r fei rhai dyddiau wedi i ddwy etholaeth – Llanelli ac Aberconwy – ddatgelu’r ymgeiswyr a fydd yn eu cynrychioli yn etholiad nesaf y Cynulliad.

Y cwyno

Yn siarad â golwg360 flwyddyn yn ôl, awgrymodd Gwerfyl Jones bod yna rhwystredigaeth nad oedd y blaid wedi’u caniatáu i fwrw ati i ddewis ymgeisydd.

Ond mae’n mynnu bod yr etholaeth bellach yn fodlon, ac mae’n datgelu mai dewis Pwyllgor y Rhanbarth oedd gohirio’r broses.   

“Mewn gwirionedd, ein dewis ni oedd hynny,” meddai. “Doeddwn ni ddim yn meddwl ei fod o yn ddoeth cynnal y broses yn ystod misoedd y gaeaf.

“Allwch chi ddim trefnu cynadleddau dewis mewn etholaeth mor fawr â hon, ym mis Chwefror neu fis Mawrth. Allwch chi ddim oherwydd y tywydd. Anawsterau teithio [oedd y pryder].”

Mae Dafydd Elis-Thomas wedi cynrychioli Dwyfor Meirionydd yn Aelod Cynulliad ers 2007. Yn wreiddiol yn aelod Plaid Cymru, trodd yn annibynnol yn 2016.