Mae parc gwyliau yng Ngwynedd yn cadarnhau eu bod nhw wedi gorchymyn aelodau staff i beidio â siarad Cymraeg gyda’i gilydd, a hynny mewn “rhannau penodol o’r gegin”.

Daw’r datganiad gan Barc Gwyliau Greenacres ym Mhorthmadog ar ôl i dad un aelod honni ar y cyfryngau cymdeithasol bod ei ferch, sy’n gweithio yn y parc, wedi cael ei hatal rhag siarad Cymraeg yn y gegin.

Mewn ymateb, dywed llefarydd ar ran y parc wrth golwg360 eu bod nhw wedi “gofyn” i aelodau o staff i gyfathrebu’n Saesneg yn unig mewn rhannau o’r gegin er mwyn “atal dryswch”.

Ond maen nhw’n wfftio’r awgrym bod staff yn cael eu “hatal” rhag siarad Cymraeg yng ngweddill y parc, gan ddweud bod hynny’n “hollol anghywir”.

Amddiffyn polisi iaith

“Er mwyn diogelwch ein hymwelwyr, mae aelodau o’r tîm mewn rhannau penodol o’r gegin wedi cael eu gofyn i gyfathrebu yn Saesneg pan maen nhw ar shifft,” meddai’r llefarydd.

“Diben y polisi hwn yw atal dryswch a all arwain at wybodaeth bwysig, fel alergeddau cwsmeriaid, yn cael eu camddeall.

“Mae hawl gan aelodau o’r tîm i siarad Cymraeg mewn rhannau eraill o’r parc yn ddyddiol. Mae unrhyw awgrym bod y parc yn atal ein staff rhag siarad Cymraeg yn hollol anghywir.”