Athro o Ysgol Cae Top ym Mangor aeth â theitl Athro Gorau’r Flwyddyn mewn seremnoni fawr yn Llundain i ddathlu gwobrau Pride of Britain neithiwr.

Dim ond 29 oed yw Llew Davies, sy’n hanu o fferm odro ar Ynys Môn, ond mae’r athro ysgol gynradd wedi creu argraff fawr ar ddisgyblion a chyd-athrawon ers iddo ddechrau dysgu.

Yn ôl Pennaeth ysgol Cae Top, Rhys Hughes, mae Llew Davies “wedi gweithio’n galed iawn yn yr ysgol ers dod i Cae Top rhyw chwe mlynedd yn ôl.”

Roedd Rhys Hughes yn y gwobrau yn Llundain neithiwr i weld ei ddirprwy yn camu i’r llwyfan i dderbyn gwobr Athro Gorau’r Flwyddyn.

“Roedd hi’n deimlad braf iawn i gael Llew, a Cae Top, yn cael eu cydnabod mewn seremoni fel’na,” meddai’r pennaeth balch wrth Golwg 360. “’Dan ni’n lwcus iawn i gael llawer o athrawon brwdfrydig, fel Llew, yn ysgol Cae Top. Ond ro’n ni’n sylweddoli’n llawn pa mor lwcus oedden ni neithiwr.”

Ond profiad eitha’ rhyfedd oedd hi, cyfaddefodd  Llew Davies wrth Golwg 360. “Ar yr un llaw, y cyfan o’n i’n gallu meddwl oedd be’ dwi’n da yn canol yr holl arwyr ’ma! Ond ar y llaw arall mae’n beth da iawn i’r proffesiwn gael ychydig o gyhoeddusrwydd cadarnhaol.”

Yn ôl ei bennaeth, Rhys Hughes, un o’r pethau sy’n rhoi Llew Davies ar y blaen yw ei berthynas da iawn â phobol.

“Mae ganddo berthynas da iawn gyda’r plant a’r staff a’r rhieni,” meddai, “ond wrth gwrs y peth pwysicaf yw’r hyn mae o’n llwyddo i gael allan o’r plant yn y dosbarth.”

Wrth ennill y wobr neithiwr, cafodd Llew Davies ei ganmol am ei ffordd creadigol o ddysgu, sy’n cynnwys gwneud i losgfynyddoedd i ffrwydro ar draws y dosbarth, a chystadlu gyda thîm o blant yr ysgol mewn cystadleuaeth Prydeinig yn cyfuno gwyddoniaeth a rasio ceir.

Mae hefyd yn credu’n gryf mewn dangos i blant sut mae pethau’n gweithio, “mewn ffordd hands on, nid jyst wrth eistedd wrth y ddesg.”

Un o’r ffyrdd a ddefnyddiodd i ddangos sut mae cyflymder a disgyrchiant yn gweithio oedd wrth gael ras gadeiriau ar draws y gampfa rhyngddo fe ag un disgybl – er mwyn dangos sut bod gwahaniaeth pwysau yn effeithio ar y nerth oedd ei angen i symud y cadeiriau.

Cadw’r gyfrinach

Roedd pennaeth ysgol Cae Top yn gwybod am lwyddiant ei ddirprwy bennaeth cyn i Llew Davies ei hun gael gwybod am y wobr, ac fe fu’n rhaid iddo gadw’n dawel am y peth am rai wythnosau.

“Daeth ’na alwad ganol gwyliau’r haf yn dweud fod Llew wedi cael ei enwebu, ac yn gofyn ychydig bach amdano,” meddai Rhys Hughes. “Ychydig wythnosau wedyn fe ddwedon nhw wrtha i ei fod o wedi ennill – ac roedd hynny sawl wythnos cyn i Llew ei hun gael clywed!”

Doedd hi ddim yn syndod i bennaeth Cae Top glywed bod Llew Davies wedi mynd â hi yn y gystadleuaeth – wedi iddo gipio gwobr Athro’r Flwyddyn dros Brydain gyfan yn 2010, yn y Gwobrau Addysg.

Ond roedd sypreis arall yn disgwyl am Llew Davies wrth iddo gamu i’r llwyfan neithiwr.

“Ro’n i’n meddwl mod i’n weddol in the loop efo trefnu pethau yn yr ysgol,” meddai Llew Davies, “ond roedd hi’n yffarn o sioc i fi weld criw o blant yr ysgol yn troi fyny ar y llwyfan neithiwr!”

Roedd 21 o blant o Ysgol Cae Top wedi teithio i Lundain neithiwr er mwyn gweld eu hathro yn derbyn gwobr Athro Gorau’r Flwyddyn yng ngwobrau Pride of Britain.

“Nath o daflu fi ’chydig,” meddai Llew Davies, “ond wnaeth o wneud y noson i fi a dweud y gwir.”

Yr actor a’r cyflwynydd James Corden oedd yn cyflwyno’r wobr i Llew Davies neithiwr, ond roedd y plant yn gwybod pwy oedd seren y noson.

“Roedden nhw wedi egseitio’n lân,” meddai Llew Davies, oedd yn dweud bod y plant wrth eu boddau yn cael tynnu ei goes ar y llwyfan am eu bod nhw wedi llwyddo i gadw’r gyfrinach oddi wrtho.

Ac yn ôl pennaeth Cae Top, roedd Llew Davies “yn amlwg wedi gwirioni.”

Mae’r  disgyblion a’r ddau athro yn dal yn Llundain ar hyn o bryd, yn dathlu’r llwyddiant  Athro Gorau Prydain 2011, ac i Ysgol Cae Top.