Cafodd 16% yn llai o bobol ifanc eu hanafu mewn damweiniau ffyrdd yng Nghymru y llynedd, yn ôl ffigyrau newydd.

Cafwyd gostyngiad o 15% yn nifer y plant o dan 16 oed a gafodd eu hanafu mewn damweiniau tebyg hefyd.

Mae’r adroddiad gan Lywodraeth Cymru yn dangos y bu yna “ostyngiad sylweddol” yn nifer y damweiniau ffyrdd yn 2017 o gymharu â’r flwyddyn gynt.

Ond mae hefyd yn dangos bod cerddwyr a beicwyr yn wynebu lefel uwch o risg o gymharu â modurwyr.

Y ffigyrau

Ar y cyfan, gwelwyd damweiniau ffyrdd yng Nghymru yn gostwng 9.6% yn 2017, gyda chyfanswm o 6,194 yn cael eu hadrodd i’r heddlu.

Fe wnaeth nifer y bobol a gafodd eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar y ffordd ostwng 4.3% i gyfanswm o 1,060, tra bo’r rheiny a dderbyniodd fân anafiadau wedi lleihau 10.6% i gyfanswm o 5,132.

Roedd 11.9% o’r holl bobol a anafwyd yn gerddwyr, sef gostyngiad o 7% ers y flwyddyn gynt.

Er bod yr adroddiad yn nodi beicwyr yn fwy tebygol o gael eu hanafu na defnyddwyr ceir, cafwyd y nifer isaf o feicwyr modur yn cael eu hanafu yn 2017, sef 595.

Cafodd 446 o feicwyr pedal eu hanafu y llynedd – yr un nifer ag yn 2016.

Parhau â’r gwaith

Yn 2013, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd’, sy’n cynnwys targedau i wneud ffyrdd Cymru yn ddiogelach.

“Fel mae’r ystadegau hyn yn eu dangos, rydyn wedi llwyddo i ostwng nifer y bobol sy’n cael eu lladd neu hanafu’n ddifrifol ar ein ffyrdd, gyda’r gostyngiad mwyaf yn nifer y bobol ifanc,” meddai’r Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters.

“Fodd bynnag, mae’r ffigyrau’n dangos hefyd bod cerddwyr a beicwyr yn wynebu lefel uwch o risg.

“Er bod pethau’n gwella, mae angen inni wneud mwy i wneud ein heolydd yn fwy diogel i ddefnyddwyr hawdd eu niweidio, a normaleiddio cerdded a beicio.”