Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio wedi i ddyn ddioddef ymosodiad difrifol yn ystod gêm bêl-droed at achos da yng Ngheredigion.

Fe gafodd dyn ei ddyrnu yn ei ben a’i frathu gan ddyn arall mewn marcî ger Neuadd Goffa Cei Newydd tua 11.30yh nos Sadwrn diwethaf (Mawrth 9).

Mae’r dioddefwr wedi’i anafu’n ddifrifol yn ei wyneb, ac fe fydd angen llawdriniaeth arno i wella’n llwyr.

Mae dyn 36 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol gyda bwriad, ac mae wedi’i ryddhau tra bod ymchwiliad yr heddlu yn mynd rhagddo.