Mae taith gerdded a gafodd ei threfnu er mwyn dathlu bywyd un o sgorwyr goliau enwocaf y canolbarth wedi codi dros £5,000 ar gyfer elusen Macmillan.

Bu farw David ‘Dias’ Williams o ganser yn 1988, ac yntau ond yn 39 oed. Roedd yn brifathro Ysgol Llanfihangel y Creuddyn, ger Aberystwyth, ar y pryd.

Mae’r gŵr a fyddai wedi dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed eleni yn cael ei gofio am sgorio 11 gôl mewn un gêm rhwng clybiau Aberystwyth a Llandrindod. Ar droad y ganrif, cafodd eisteddle er cof amdano ei hagor yng Nghoedlan y Parc, Aberystwyth.

Dros y penwythnos, bu gweddw David Williams, Margery, a’u meibion, Owain a Sion, yn arwain taith o fwy na 70 milltir ar draws y canolbarth.

Roedd lleoliadau’r daith yn cynnwys y clybiau pêl-droed y bu David Williams yn gysylltiedig â nhw yn ystod ei oes, sef Pontrhydfendigaid, Aberystwyth, Llanidloes, Penrhyn-coch, Llanddewi Brefi a Trawscoed.

Anhygoel

Cadeirydd Dias70 a chyfaill bore oes i David Williams yw’r newyddiadurwr o Bontrhydfendigaid, John Meredith, sy’n dweud bod yr ymateb a gafwyd yn ystod pedwar diwrnod y daith wedi bod yn “anhygoel”.

Y darged wreiddiol ar gyfer y gronfa oedd £3,000, meddai, ond ychwanega fod y cyfanswm wedi croesi £5,000 erbyn hyn, gyda disgwyl i ragor o arian gael ei gyfrannu yn ystod yr wythnosau nesaf.

“Roedd hi’n daith lwyddiannus dros ben,” meddai John Meredith wrth golwg360.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r holl gymunedau a’r clybiau, sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r holl beth, am droi allan i gefnogi, a hynny o’r daith ddydd Gwener trwyddo i’r daith olaf ddydd Llun.

“Mae pawb wedi cefnogi yn arbennig, i ddweud y gwir.”