Mae disgyblion o Gwm Gwaun, Sir Benfro, wedi adeiladu ‘gwesty’ newydd ar gyfer trychfilod er mwyn hybu bioamrywiaeth yn eu hardal leol.

Cafodd y gwesty bychain ei adeiladu gan ddisgyblion Dosbarth 2 yn Ysgol Llanychllwydog, gyda help llaw Richard Vaughan o’r Awdurdod Parc Cenedlaethol, sy’n gyn-ddisgybl yn yr ysgol.

Fe lwyddodd y plant i adeiladu’r strwythur pren bychan gyda briciau a boncyffion, a’r gobaith yw y bydd yn gartref addas ar gyfer gwahanol bryfed.

Mae blwch draenogod hefyd wedi cael ei osod ar y safle er mwyn rhoi mwy o hwb i fywyd gwyllt y cwm.

“Mae’r plant wedi bod yn dysgu am fwyd y byd a phwysigrwydd peillwyr, ac felly mae’r prosiect hwn wedi rhoi cyfle delfrydol iddyn nhw i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned,” meddai Richard Vaughan.

“Mae’r gwesty ar gyfer trychfilod wedi cael ei adeiladu ar dir yng nghanol pentref Pontfaen, gyda chaniatâd caredig Cyngor Sir Benfro, gan alluogi preswylwyr ac ymwelwyr i weld a mwynhau beth y mae’r plant wedi’i gyflawni. “