Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi pa deitlau sydd ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og – ac mae’r nofel a enillodd y Fedal Ryddiaith ym mhrifwyl Bae Caerdydd yn eu plith.

Mae’r gwobrau yn cael eu dyfarnu’n flynyddol ar gyfer y llyfrau plant gorau.

Mae gan y Prif Lenor Manon Steffan Ros ddwy gyfrol ar y rhestr fer eleni, ac mae rhai o’r awduron sydd ar y rhestr fer Gymraeg wedi cipio’r gwobrau yn y gorffennol – Luned Aaron, Haf Llewelyn a Valériane Leblond.

Bydd enillydd y wobr Saesneg yn cael ei gyhoeddi yng nghynhadledd CILIP Cymru yng Nghaerdydd ar Fai 16, tra bydd yr enillwyr Cymraeg yn cael eu cyhoeddi ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd ar Fai 30.

Y rhestr fer Gymraeg

  • Hadau gan Lleucu Roberts (Y Lolfa)
  • Cymru ar y Map gan Elin Meek a Valériane Leblond (Rily)
  • Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
  • Ble Mae Boc? gan Huw Aaron (Y Lolfa)
  • Fi a Joe Allen gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
  • Gwenwyn a Gwasgod Felen gan Haf Llewelyn (Gwasg Carreg Gwalch)
  • Lliwiau Byd Natur gan Luned Aaron (Gwasg Carreg Gwalch)

Y rhestr fer Saesneg

  • Wales on the Map gan Elin Meek a Valériane Leblond (Rily)
  • The Clockwork Crow gan Catherine Fisher (Firefly)
  • Seaglass gan Eloise Williams (Firefly)
  • The Storm Child gan Gill Lewis (Gwasg Prifysgol Rhydychen)