Mae cyn-brifathro ysgolion cynradd yn ne Ceredigion wedi pledio’n euog i chwe chyhuddiad sy’n ymwneud â throseddau rhyw.

Ymhlith y cyhuddiadau yn erbyn David Watkin Bundock mae bod ym meddiant lluniau anweddus o blant, gan gynnwys pedwar llun categori A; ceisio cyfathrebu’n rhywiol â phlentyn, a cheisio meithrin perthynas amhriodol â phlentyn.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod y troseddau wedi eu cyflawni rhwng mis Hydref 2017 ac Ionawr 2019.

Cafodd y gŵr 74 oed, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, ei anrhydeddu ag MBE yn 2004, a hynny am ei wasanaeth i addysg.

Bu’n brifathro ysgolion cynradd yn ardaloedd Llandysul, Capel Dewi, Aberbanc a Phont-siân am gyfnod o 35 mlynedd, cyn dod yn arolygydd lleyg gydag Estyn.

Mae hefyd yn awdur llyfr ar hanes ardal Pont-siân, sef Crwydro Dyffryn Cletwr, a gafodd ei gyhoeddi yn 1979 er mwyn dynodi can mlynedd ers sefydlu’r ysgol gynradd leol.

Mae David Watkin Bundock wedi cael ei gadw yn y ddalfa a bydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ar Fawrth 21.