Mae Llywodraeth Cymru’n ymgyrchu yr wythnos hon i annog mwy o bobol i roi organau tra eu bod yn fwy – am nad oes digon o roddwyr organau wedi marw.

Mae mwy na 250 o gleifion yng Nghymru yn marw bob blwyddyn wrth aros am drawsblaniad aren.

Dwy flynedd yw’r amser aros ar gyfartaledd ar gyfer aren gan rywun sydd wedi marw, gyda rhai cleifion yn gorfod aros dros bum mlynedd.

Arennau yw’r organau mwyaf cyffredin i’w rhoi, ond mae’r afu, darn o ysgyfaint neu ran o’r coluddyn bach hefyd yn gallu cael eu rhoi.

Gall rhoddwyr byw helpu pobol sydd angen trawsblaniad drwy leihau eu hamser aros, osgoi dialysis a gwella ansawdd a hyd eu bywydau.

Gall rhywun fyw bywyd normal gydag un aren yn unig.

Mae’n Ddiwrnod Arennau’r Byd ddydd Iau (Mawrth 14).

‘Arwain y ffordd yng Nghymru’

“Mae rhoddwyr byw yn helpu i achub a thrawsnewid bywydau, drwy roi’r cyfle i fwy o gleifion sy’n dioddef methiant yr arennau, a chlefydau eraill, gael trawsblaniad llwyddiannus,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

“Yma yng Nghymru, rydyn ni’n arwain y ffordd o ran cael cydsyniad i roi organau wedi i’r rhoddwr farw, ond tra bo pobl yn marw wrth aros am drawsblaniad, rhaid i ni weithio’n galetach i godi ymwybyddiaeth am y posibilrwydd y gall rhoddwyr byw hefyd roi eu horganau.

“Yn aml bydd rhoddwr byw yn berthynas agos neu’n ffrind, ond does dim rheswm pam na allwch roi i rywun nad ydych yn ei adnabod. Hoffwn annog pobl ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig i ystyried bod yn rhoddwr byw – mae’n benderfyniad a allai drawsnewid bywyd rhywun arall.”

 Astudiaeth Achos

 Un o’r bobol sydd wedi elwa o gael trawsblaniad arennau yw Hollie Bailey, 27 oed o Gaerffili.

Cafodd hi ei geni ag arennau llai na’r cyffredin, a dioddefodd hi fethiant llwyr ar ei harennau yn 13 oed.

Cafodd hi ei thrawsblaniad cyntaf yn 2006, ond dirywiodd ei hiechyd unwaith eto yn 2014, a chafodd hi ail drawsblaniad yn 23 oed.

“Ar ôl mwynhau bywyd normal am gynifer o flynyddoedd ar ôl cael y trawsblaniad aren gyntaf, roedd hi’n eithriadol o anodd delio â’r dirywiad sydyn yn yr aren honno ddeng mlynedd yn ddiweddarach,” meddai Hollie.

“Heb sôn am y triniaethau dialysis dwys dyddiol a’r perygl y byddai’n rhaid aros yn hir am ail aren addas i’w thrawsblannu.

“Cafodd fy mam a nhad eu profi fel darpar roddwyr, ac roedd hi’n rhyddhad mawr pan gadarnhawyd fod Dad yn addas ar gyfer rhoi’i aren.

“Mi fydda i’n ddiolchgar am byth am y rhodd mae e wedi’i rhoi i mi.

“Ers i mi dderbyn aren newydd y llynedd, rwy bellach wedi adfer fy iechyd yn llwyr, ac rwy’n gweithio’n llawn amser unwaith eto – rhywbeth na fyddai wedi bod yn bosib o gwbl cyn y llawdriniaeth, am fy mod i wedi blino drwy’r amser bryd hynny.

“Erbyn hyn mae gen i ddigonedd o egni i fwynhau gyda fy ffrindiau a’r teulu ac rydw i hyd yn oed yn hyfforddi ar gyfer rhedeg ras 10k Caerdydd ym mis Medi er mwyn codi arian ar gyfer elusen Aren Cymru.”

‘Optiwch i mewn’

“Roedden ni wrth ein bodd, wrth gwrs, mod i’n addas ar gyfer bod yn rhoddwr i Hollie,” meddai ei llystad, Robert, sy’n 52 oed.

“Roedd gorfod ei gweld hi’n dioddef oriau di-ben-draw o ddialysis ar ei harennau’n anodd i bawb.

“Cyn gynted ag y deallon ni fod ein gwaed ni’n cydweddu, fe ddechreuais i ar naw mis o brofion dwys, er mwyn gwyned yn siŵr mod i’n holliach ac yn gallu rhoi aren i Hollie.

“Digwyddodd y llawdriniaeth ym mis Rhagfyr 2015.

“Ar ôl y driniaeth, fe ges i chwe wythnos o’r gwaith er mwyn sicrhau mod i’n gwella’n llwyr.

“Fe gawson ni gefnogaeth o’r radd flaenaf gan yr ysbyty, ac rydym ni’n dal i’w dderbyn, ac erbyn hyn rwy’n holliach unwaith eto.

“Os oes unrhyw un yn pendroni a ddylen nhw optio i mewn neu allan, fe faswn i’n dweud, optiwch i mewn.

“Mae’r effaith y gallwch chi ei gael ar ansawdd bywyd rhywun yn enfawr.”