Roedd 2.2% yn llai o bobol yn siopa yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol, yn ôl ystadegau Consortiwm Manwerthu Prydain.

Roedd cynnydd sylweddol yn ystod y mis yn nifer y siopwyr mewn parciau manwerthu, ond gostyngiad o 5.9% yn nifer y siopwyr mewn canolfannau siopa.

Gostyngiad o 2% sydd wedi bod ym mhob lleoliad drwy holl wledydd Prydain – y gostyngiad misol mwyaf ar gyfer mis Chwefror ers pum mlynedd.

Mae’r ffigwr yn cynnwys y stryd fawr, parciau manwerthu a chanolfannau siopa ac mae’n golygu bod gostyngiad wedi bod bob mis ers 15 mis.

3.8% oedd y ffigwr yn yr Alban, gyda’r ffigwr yn amrywio o 1.4% i 3.5% yn Lloegr.

Serch hynny, roedd twf o 0.2% yng Ngogledd Iwerddon.

Daw’r cyhoeddiad am y ffigurau er gwaetha’r tywydd mwyn fis diwethaf. Yn ystod wythnos ola’r mis, fe gododd y ffigurau rywfaint.