Fe fu 50 o ddiffoddwyr wrthi’n ceisio diffodd tân mewn gweithdy ceir yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr neithiwr.
Cawson nhw eu galw i’r safle ger Heol Coity am oddeutu 9.15 neithiwr (nos Sul, Mawrth 10).
Fe gymerodd ychydig yn llai na chwe awr i reoli’r fflamau.
Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad.
Roedd rhybudd i drigolion lleol gadw draw, ac i gau eu drysau a’u ffenestri.
Dydy hi ddim yn glir eto faint o gerbydau gafodd eu dinistrio, ac mae ymchwiliad ar y gweill.