Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth yn dilyn diflaniad bachgen 14 oed o ardal Castell-nedd.

Does neb wedi gweld Cheyenne Nelson ers tua 5.30 nos Iau (Mawrth 7).

Pan gafodd ei weld ddiwethaf, roedd e’n gwisgo dillad chwaraeon du ac esgidiau Nike Air Max.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.