Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cymryd rhan mewn arbrawf i helpu mwy o famau i eni plant yn y cartref.
Mae elusen Baby Lifeline yn cynnig pecynnau i fydwragedd yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion a fydd yn eu helpu i gefnogi mwy o ferched.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw’r unig fwrdd iechyd yng Nghymru sy’n cymryd rhan yn yr arbrawf.
“Cawsom ein dewis o ganlyniad i’r ardal fawr o dir yr ydym yn ei gwasanaethu ac oherwydd ein cyfradd genedigaethau yn y cartref,” meddai Lynn Hurley, Bydwraig Arweiniol ar gyfer Unedau Cymunedol ac Unedau dan Arweiniad Bydwragedd ar gyfer Hywel Dda.
“Mae ein bydwragedd cymunedol yn edrych ymlaen at gael bagiau safonol newydd, er mwyn hybu gwasanaeth diogel o ansawdd uchel ar gyfer mamau a bydwragedd, fel ei gilydd.
“Rydw i a’m cydweithwraig ym maes bydwreigiaeth, Rebecca Johnson, wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y safon hon yn cael ei chyflawni trwy ein gwaith gyda Baby Lifeline.