Daeth tua 50 o bobl i gyfarfod cyhoeddus ym Modffordd, Ynys Môn, nos Wener i drafod dyfodol eu canolfan gymunedol.

Mae’r ganolfan yn rhannu safle ag ysgol y pentref, fydd yn cau wrth i Gyngor Ynys Môn ad-drefnu ysgolion cynradd yr ardal.

Y cyngor sir sydd berchen yr adeilad yn gyfreithiol, ond fe gododd y gymuned filoedd o bunnau i sefydlu’r ganolfan yn y 1980au.

Mae nifer o gymdeithasau a mudiadau tebyg i’r Cylch Meithrin lleol yn defnyddio’r adeilad yn rheolaidd.

Er yn cydnabod nad oes gan y gymuned berchnogaeth ffurfiol o’r adeilad, pwysleisiodd nifer yn y cyfarfod fod pobl leol wedi llafurio am flynyddoedd i’w chodi.

Clywodd y cyfarfod y gallai prynu’r adeilad gostio hyd at £400,000 gan fod costau i’w drwsio, a byddai angen sicrhau lle i barcio hefyd.

Dydy Cyngor Ynys Môn heb bennu pris eto ac maen nhw’n gofyn i’r rheiny allai brynu’r safle i yrru datganiad o ddiddordeb erbyn Mawrth 15.

Dywedodd deilydd portffolio eiddo’r sir, y Cynghorydd Bob Parry, bod yr awdurdod yn barod i roi cymorth i’r gymuned os ydyn nhw am geisio prynu’r safle.

Penderfynodd y pentrefwyr yn y cyfarfod sefydlu pwyllgor i weld oes modd cael y ganolfan am ddim gan y cyngor sir, ynghyd â’r posibilrwydd o brynu gweddill y safle.