Mae “angen” pobol fel Neil McEvoy ar Blaid Cymru, yn ôl cynghorydd blaenllaw o Sir Gaerfyrddin.

Ym mis Mawrth y llynedd, cafodd yr Aelod Cynulliad dadleuol ei wahardd o’r blaid, ar ôl cael ei gyhuddo o “dorri cyfres [o’u] reolau sefydlog”.

Ond gyda chyfnod ei waharddiad yn dirwyn i ben, mae’r Cynghorydd Plaid Cymru, Alun Lenny, wedi dweud bod yna le i Aelod Cynulliad Canol De Cymru yn y Blaid.

“Dw i ddim yn or-gyfarwydd gydag amgylchiadau’r gwaharddiad,” meddai wrth golwg360, “ond dw i’n gwybod bod calon Neil McEvoy yn y lle iawn.

“Mae e’n dipyn o street fighter gwleidyddol. A dw i’n credu bod angen pobol fel hynna arnom ym Mhlaid Cymru. Yn sicr dw i’n credu bod pobol felly gennym ar Gyngor Sir Gâr.”

Seddi

Yr wythnos hon, mae Plaid Cymru wedi bod yn dewis pwy fydd yn sefyll mewn sawl etholaeth yn ystod etholiad y Cynulliad yn 2021.

Gwnaeth Neil McEvoy sefyll am sedd Mark Drakeford yn etholiad 2016 gan golli o drwch blewyn, ac mae’r Aelod Cynulliad eisoes wedi cyfleu ei barodrwydd i drio eto.

Pe bai’n dychwelyd i’r Blaid, a ddylai gael y cyfle i geisio am sedd Gorllewin Caerdydd unwaith eto?

“Pam lai?,” meddai Alun Lenny. “Mae’n boblogaidd iawn ymhlith ei bobol ei hunan. Mae Plaid Cymru yn bodoli er mwyn cael y ddêl gorau i Gymru.

“Ond hefyd er mwyn gwneud yn siŵr bod y bobol ar y lefel mwyaf lleol bosib yn cael rheoli eu bywydau.”