A hithau yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, mae undeb golff Cymru yn lansio ymgyrch newydd i geisio denu mwy i chwarae’r gêm.

Bydd yr hashnodau #New2Golf a #Back2Golf yn cael eu taenu ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn amlygu bod golff yn gyfle i ferched gymdeithasu a chael hwyl.

Bydd genethod a merched yn cael eu hannog i brofi sesiynau blasu golff.

Ar hyn o bryd dim mae 86% o aelodau clybiau golff Cymru yn ddynion.

Bu ymgyrch debyg y llynedd ac o’r 1,759 o chwaraewyr newydd gafodd eu denu i’r cwrs golff, roedd 56% yn ferched.

Clwb Conwy’r blaengaraf drwy Brydain

Yn ddiweddar cyhoeddwyd mai Clwb Golff Conwy yw’r cyntaf yng Ngwledydd Prydain i arwyddo Siarter Merched Mewn Golff, sy’n ceisio denu mwy o ferched i chwarae golff a gweithio yn y maes.