Jane Hutt - datganiad y gyllideb heddiw
Fe fydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi heddiw sut y mae’n bwriadu gwario mwy na £14 biliwn yn ystod y flwyddyn nesa’.
Y disgwyl yw y bydd yna sylw arbennig i ddatblygu sgiliau a cheisio rhoi hwb i fyd busnes ynghanol yr argyfwng economaidd.
Eisoes, mae llefarydd cyllid Plaid Cymru wedi galw am hynny, gan ddweud bod angen ailgyfeirio peth gwario i gryfhau’r economi.
Ac roedd Alun Ffred Jones hefyd yn beirniadu’r Llywodraeth am beidio ag ymgynghori mwy gyda’r gwrthbleidiau – fe fydd rhaid i Lafur gael cefnogaeth o leia’ un AC o blaid arall i sicrhau mwyafrif.
Pwysau i rewi treth gyngor
Mae Prif Weinidog Prydain ac Ysgrifennydd Cymru wedi rhoi pwysau ar y Llywodraeth yng Nghaerdydd i ddilyn eu hesiampl nhw yn Lloegr a rhewi’r dreth gyngor.
Wnaeth hynny ddim digwydd y llynedd, gyda Llywodraeth Cymru’n dadlau bod lefel treth gyngor yma eisoes yn is nag yn Lloegr.
Fe fydd y Ceidwadwr, fel arfer, hefyd yn galw am gynyddu’r gwario ar iechyd – maes sydd wedi ei warchod rhag toriadau yn Lloegr.
Gwario ar addysg
Y prynhawn yma y bydd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, yn gwneud ei chyhoeddiad mewn sesiwn llawn o’r Cynulliad, gyda tua £500 miliwn yn llai i’w gwario nag oedd y llynedd.
Roedd y rhaglen lywodraethu a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwetha’n rhoi awgrym clir y bydd pwyslais ar sgiliau a phrentisiaethau ac mae disgwyl hefyd y bydd rhaglenni tlodi fel Cymunedau’n Gyntaf yn cael eu newid.
Roedd y rhaglen hefyd yn ailadrodd addewid y Prif Weinidog, Carwyn Jones, y bydd gwario ar addysg yn cynyddu 1% yn fwy na’r grant addysg sy’n dod o Lundain.