Eisteddfod Genedlaethol 2022 yn cael ei chynnal yn Rhondda Cynon Taf

Daeth cadarnhad heddiw (dydd Mercher, Mawrth 6) mai Rhondda Cynon Taf fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2022.
Bu Pwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol yn cyfarfod yn ddiweddar i ystyried faint o ddiddordeb sydd yn yr ardal, ac fe fydd y gwaith paratoi yn dechrau’n syth er mwyn rhoi’r peiriant ar waith.
Roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi mynegi diddordeb mewn cynnal y brifwyl yn 2017, ond fe aeth yr Eisteddfod i Ynys Môn y flwyddyn honno. Er hynny, mae trafodaethau rhagarweiniol wedi bod yn mynd yn eu blaenau dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar gyfer 2022.
‘Anrhydedd’
“Mae’n anrhydedd i’n Bwrdeistref Sirol dderbyn cadarnhad y bydd hi’n gartref i Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2022 ac rwy’n sicr y bydd yr achlysur yma yn cynnig cyfleoedd economaidd pwysig i Rondda Cynon Taf,” meddai Andrew Morgan, arweinydd y cyngor sir.
“Mae gan yr achlysur y potensial i roi hwb economaidd mawr trwy roi’r cyfle inni arddangos yr hyn sydd gan ein ardal i’w gynnig fel cyrchfan diwylliannol i ymwelwyr.
“Rydyn ni’n bwriadu cynnal yr achlysur mewn lleoliad canolog er mwyn manteisio i’r eithaf ar draws y rhanbarth.
“Yn 2022, bydd Metro De Cymru yn sicrhau bod y seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus gorau posibl ar gael, er mwyn darparu ar gyfer y nifer sylweddol o ymwelwyr y mae’r achlysur yma’n eu denu – amcangyfrifir y bydd hyd at 150,000 o ymwelwyr yn dod.
“Mae’r cyfleoedd y mae Metro De Cymru yn eu creu yn ei gwneud yn bosibl i ni gymryd agwedd arloesol tuag at gynnal yr achlysur.”