Keith Towler
Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau heddiw i nodi deng mlynedd ers sefydlu swydd Comisiynydd Plant Cymru.

Yn 2001, Cymru oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y DU i sefydlu rôl Comisiynydd Plant ­- sef Keith Towler ar hyn o bryd – o ganlyniad i argymhelliad gan grŵp trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad.

Rôl y Comisiynydd yw diogelu hawliau plant yng Nghymru a sicrhau bod polisi Llywodraeth Cymru yn y maes hwn yn cael ei roi ar waith yn effeithiol.

Bydd Keith Towler yn agor y digwyddiadau a gynhelir heddiw drwy gyflwyno ei adroddiad blynyddol i’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, un o bwyllgorau trawsbleidiol y Cynulliad.

Yna, bydd yn bresennol mewn dadl yn Siambr Hywel gyda 60 o bobl ifanc o ysgolion ledled Cymru, ynghyd â Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, a Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Bydd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, yn cyfarfod ag ef cyn iddo fynd i dderbyniad gyda’r nos yng nghwmni Aelodau’r Cynulliad a rhanddeiliaid. Noddir y digwyddiad gan Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.

‘Blaengar’

Dywedodd y Llywydd, Rosemary Butler AC, “Profodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei fod yn sefydliad modern a blaengar drwy sefydlu swydd Comisiynydd Plant yn 2001. Yn fuan wedi hynny, gwnaeth holl weinyddiaethau eraill y DU yr un peth a dylai Cymru fod yn falch iawn o hynny.

“Wrth inni nodi deng mlynedd ers sefydlu rôl Comisiynydd Plant Cymru, rhaid inni ddathlu’r camau cadarnhaol a gymerwyd i hyrwyddo hawliau plant yng Nghymru, ond rhaid inni hefyd ailddatgan ein hymrwymiad i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu cynrychioli a’u diogelu mewn modd effeithiol yn y dyfodol.”

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc: “Mae’n hanfodol sefydlu dulliau a fydd yn galluogi plant a phobl ifanc i ddylanwadu’n uniongyrchol ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau hwy, a gwnaethpwyd llawer iawn o waith dros y deng mlynedd diweddaf i hwyluso’r broses hon.

“Mae’r digwyddiadau heddiw’n gyfle inni edrych yn ôl ar yr hyn a gyflawnwyd ar gyfer plant a phobl ifanc dros y degawd diwethaf a hefyd i edrych ar sut y gallwn ddatblygu’r llwyddiannau hyn yn y dyfodol.”