Mae Cyngor Sir Gâr wedi ymateb i feirniadaeth a dderbyniodd am hedfan baner Jac yr Undeb ar Ddydd Gŵyl Dewi, drwy ddweud fod y faner yno “oherwydd protocol.”

Bu cryn feirniadu ar yr awdurdod lleol ar ôl i ymgyrchydd iaith bostio llun ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n dangos pedair baner yn chwifio ger y pencadlys yng Nghaerfyrddin.

Ar y pryd, fe ddywedodd Heledd Gwyndaf fod gweld Jac yr Undeb yn cyhwfan ochr yn ochr â’r Ddraig Goch yn “annerbyniol”, a chyhuddodd Plaid Cymru, sy’n arwain y cyngor, o “sarhau” Cymru.

Mewn ymateb, dywed llefarydd ar ran swyddfa’r Cynghorydd Emlyn Dole wrth golwg360 fod y pedair baner yno oherwydd polisi’r cyngor ar gyfer diwrnodau penodedig y flwyddyn.

Mae’r polisi ar gyfer dydd Gŵyl Dewi, meddai wedyn, yn cynnwys chwifio pedair baner – Jac yr Undeb, y Ddraig Goch, baner Dewi Sant a baner y cyngor.

Ychwanega fod y polisi yn cael ei ailystyried “ar hyn o bryd”, ond nad oes “dim byd” wedi ei gadarnhau eto.