Mae’r A498 ynghau yn dilyn gwrthdrawiad difrifol.

Mae’r heddlu wedi’u galw i’r ffordd ger cyffordd A4086 rhwng Pen y Gwryd a Nant Gwynant.

Mae’r ffordd ynghau am y tro, ac mae rhybudd i deithwyr gadw draw o’r ardal.