Mae disgwyl i wyntoedd gyrraedd cyflymdra o 80 milltir yr awyr mewn rhai ardaloedd arfordirol heddiw (dydd Sul, Mawrth 3).

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion rhwng 3 o’r gloch a 6 o’r gloch bore fory (dydd Llun, Mawrth 3).

Y gorllewin a’r gogledd-orllewin sy’n debygol o weld y gwyntoedd ar eu cryfaf.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai’r gwyntoedd beryglu bywydau.

Mae pontydd Hafren ar agor o hyd, ond mae terfyn cyflymdra o 40 milltir yr awr yn ei le, ar ôl i lôn i’r gorllewin gael ei chau.

Mae rhybudd y gallai’r gwyntoedd effeithio ar drafnidiaeth gyhoeddus a signalau ffôn symudol.