Mae ymgyrchydd iaith blaenllaw yn dweud ei bod yn “annerbyniol” fod Cyngor Sir Gâr wedi hedfan baner Jac yr Undeb ar ei adeilad ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Ar ei thudalen Facebook, mae Heledd Gwyndaf wedi postio llun sy’n dangos pedair baner yn hedfan ochr yn ochr ar yr adeilad yng Nghaerfyrddin – Jac yr Undeb, y Ddraig Goch, baner Dewi Sant a baner y cyngor.

“Beth sydd yn drist iawn ydy fod Cyngor, dan arweinyddiaeth Plaid Cymru, yn teimlo’r angen i fod yn weision i’n meistri yn Lloegr,” meddai wrth golwg360.

“Mi fyddai’n braf clywed eu hesgusodion dros hyn.”

Annibyniaeth

Mae hi’n beirniadu Plaid Cymru am “sarhau” Cymru drwy hedfan y faner.

“Plaid sy’n credu mewn annibyniaeth i Gymru yw Plaid Cymru, ac mae annibyniaeth o fewn ein cyrraedd ni fel cenedl,” meddai.

“Felly pam yn y byd y byddai plaid wleidyddol sy’n credu dros annibyniaeth eisiau sarhau baner eu gwlad fel hyn?”

Ac yn ôl Heledd Gwyndaf, nid y ffaith fod y faner yn hedfan ar Ddydd Gŵyl Dewi, ond ei bod yn hedfan o gwbl.

“Mae e’n annerbyniol ar unrhyw ddiwrnod o’r flwyddyn,” meddai.

‘Gormes’

“Does dim modd hedfan baner Cymru a Jac yr Undeb ochr yn ochr,” meddai wedyn am roi lle cyfartal i’r ddwy faner, a baneri Dewi Sant a’r cyngor.

“Dyw e ddim yn gwneud unrhyw synnwyr. Mae un faner yn arwydd o ormes dros y llall.”

Ac mae’n dadlau nad yw’r Ddraig Goch a Jac yr Undeb yn “faneri cyfartal”.

“Mae un yn cynrychioli system sydd yn gormedu’r genedl y mae’r faner arall yn ei chynrychioli.

“Mae’r Ddraig Goch yn cynrychioli cenedl sydd wedi dioddef yn economaidd ac yn ddiwylliannol ac wedi, ac yn, brwydro am ei heinioes oherwydd y coloneiddio sydd yn digwydd gan yr hyn a gynrychiolir gan faner Jac yr Undeb.”