Mae dyn 21 oed yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o drywanu dyn 71 oed yn Borth yng Ngheredigion ddydd Iau (Chwefror 28).

Fe gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol, ac fe gafodd ei drosglwyddo o’r ddalfa i ofal gweithwyr iechyd.

Dydy e ddim yn y gymuned, meddai’r heddlu, sy’n dweud nad yw’n beryglus i’r cyhoedd.

Roedd y dyn 71 oed yn cerdded gyda’i gŵn pan ger Animalarium Borth am oddeutu 9.40yb pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd, ac mae’n dal yno mewn cyflwr difrifol.

Mae’r ymchwiliad yn parhau.