Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth am lanc 17 oed sydd ar goll o Abertawe.

Does neb wedi gweld Daniel Jones o ardal Treforys ers tua 6 o’r gloch nos Iau.

Mae lle i gredu bod ganddo fe gysylltiad ag ardal Merthyr Tudful.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.