‘Fel Hyn ‘Da Ni Fod’ gan Elidyr Glyn ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Cân i Gymru eleni, wrth i’r gystadleuaeth ddathlu ei phen-blwydd yn 50 oed.

Cafodd y gân fuddugol ei dewis drwy bleidlais gyhoeddus fyw gan wylwyr S4C.

‘Gewn Ni Weld Sut Eith Hi’ gan Rhydian Meilyr oedd yn ail, gan ennill £2,000.

Yn drydydd roedd ‘LOL’ gan Dyfrig Evans.

Mae Elidyr Glyn yn ennill tlws y gystadleuaeth, yn ogystal â gwobr ariannol o £5,000 a’r cyfle i gystadlu yn yr Ŵyl Ban-geltaidd yn Iwerddon ym mis Ebrill.

Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, a’r beirniaid a ddewisodd yr wyth cân ar gyfer y rownd derfynol oedd Ryland Teifi, Kizzy Crawford, Geraint Lovgreen a Non Parry.

‘Profiad arbennig iawn’

“Mae wedi bod yn brofiad arbennig iawn bod yn rhan o’r gystadleuaeth eleni,” meddai Elidyr Glyn.

“Dw i wedi cael cefnogaeth wych gan deulu a ffrindiau a deithiodd lawr i Aberystwyth i fod yma gyda fi heno.

“Diolch iddyn nhw i gyd ac i bawb wnaeth bleidleisio hefyd. Dw i wrth fy modd!”

“Llongyfarchiadau i Elidyr Glyn ac i bob un o’r perfformwyr a’r cyfansoddwyr sydd wedi cymryd rhan yng Nghân i Gymru eleni – mae wedi bod yn noson anhygoel,” meddai Siôn Llwyd o Avanti Media, a gynhyrchodd y rhaglen.

“Mae safon yr artistiaid heno yn argoeli’n dda ar gyfer dyfodol Cân i Gymru a dyfodol cerddoriaeth Gymraeg.”