Mae dyn 42 oed o ardal y Rhath yng Nghaerdydd wedi ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner dan glo am dwyll gwerth £500,000.

Roedd Premsaran Patel wedi creu cwmnïau a dogfennau ffug ac wedi cyflogi cyfreithiwr i wyngalchu arian budur oedd yn deillio o droseddu.

Fe ddechreuodd y twyll pan ddywedodd Premsaran Patel ei fod yn bostfeistr ar gyflog o £42,000 y flwyddyn, er mwyn cael ailforgais ar gartref.

Ond mewn gwirionedd roedd yn ddi-waith ac wedi ffugio papurau cyflog – roedd ei gyfreithiwr yn gwybod hyn ond ni roddodd wybod i’r banc fod twyll ar waith.

Aeth Premsaran Patel yn ei flaen i brynu mwy o eiddo yng Nghaerdydd ac fe dyfodd ei droseddu fel caseg eira.

Fe gafodd ei ganfod yn euog o dwyll a cheisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder yn Llys y Goron Caerdydd.