Mae sefydlydd deiseb ‘Gwnewch Ddydd Gŵyl Dewi yn wyliau swyddogol’ yn gobeithio tanio trafodaeth “ddilys” am y mater yn San Steffan.

Mae’r ddeiseb yn galw am wneud Mawrth y 1af yn wyliau banc yng Nghymru, a hyd yma mae dros 4,000 o bobol wedi ei lofnodi.

Nod Elfed Wyn Jones yw denu miloedd yn rhagor o lofnodwyr, ac os bydd yn llwyddo i gael 100,000 o lofnodion bydd San Steffan yn ystyried cynnal dadl tros y mater.

“Dw i’n hapus iawn [â’r ymateb hyd yma],” meddai wrth golwg360. “Dw i’n gobeithio gwneith o gyrraedd y 100,000. Ond dw i’n optimistaidd wneith o gyrraedd y 10,000.

“Unwaith mae’n cyrraedd 10,000 mi ga’ i ymateb gan San Steffan, ond dw i yn gobeithio gwneith o gyrraedd y 100,000 fel ein bod yn cael trafodaeth iawn a dilys yn y Senedd.”

Gŵyl y banc

Mae Elfed Wyn Jones yn dweud bod y cyhoedd yn gefnogol i’w achos, ac mae’n esbonio’i resymau tros sefydlu’r ddeiseb.

“Mae Iwerddon a’r Alban yn cael dydd eu hunain – diwrnodau San Padrig a Saint Andrew – ac o’n i’n meddwl ei fod yn annheg bod Cymru ddim yn cael yr un driniaeth ac yr un parch,” meddai.

“Mae gwneud rhywbeth yn ŵyl y banc yn rhoi’r teimlad ei fod yn fwy swyddogol.

“Mae’n rhoi cyfle i ni gwestiynu beth mae’n ei olygu i fod yn Gymry, ac i [drafod] ein hamcanion tros y wlad. Mae’n gyfle i adlewyrchu tros ein hanes.”

Mae hefyd yn credu y gallai wneud Cymru’n fwy adnabyddus ar lefel “rhyngwladol”, ac mae’n dweud y dylai Dydd San Siôr hefyd fod yn ŵyl banc.

Traddodiadau

Mae dathlu Dydd Gŵyl Dewi mewn swyddfeydd ac ysgolion – trwy wisgo dillad traddodiadol ac ati – yn hen gyfarwydd i lawer o Gymry bellach.

A thrwy wneud y diwrnod yn ŵyl banc, mae yna ddadl y byddai’r arferion yma yn dod i ben. Mae cwestiynau hefyd yn codi ynglŷn ag a fyddai’r cyhoedd yn dathlu ar eu liwt eu hunain.

Dyw hynny ddim yn pryderu Elfed Wyn Jones.

“Weithiau mae Dydd Gŵyl Dewi yn glanio ar hanner tymor, ac ar y dydd Gwener cyn yr hanner tymor mae ysgolion yn cynnal Eisteddfodau ac mae pobol yn gwisgo dillad Cymreig.

“Does dim rhaid dathlu Dydd Gŵyl Dewi ar ddydd yr ŵyl – mi allai fod ar y dydd cynt. A rhaid cofio bod y paredau yn dod yn fwyfwy poblogaidd…

“Byddai cynnal Dydd Gŵyl Dewi ar ŵyl banc ddim yn cyfyngu. Efallai y byddai’n ymestyn [hyd y dathliadau] yn fwy.”