Yn Eglwys Gymreig Melbourne y bu un Cymro yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi – ac mae’n rhywbeth a fydd yn aros yn y cof am byth, meddai.

Mae Rhodri Dafydd, 23 oed o’r Felinheli, yn gweithio yn Awstralia ers mis Hydref y llynedd, ac wedi ei syfrdanu gyda rhai straeon Cymry Awstralia.

“Roedd o’n brofiad bythgofiadwy heddiw yn Eglwys Gymreig Melbourne,” meddai. “Dw i wedi cyfarfod pobol sydd wedi symud yma o bob rhan o Gymru, maen nhw’n dathlu Dydd Gŵyl Dewi bob blwyddyn.

“Un o Landudno, digwydd bod, oedd y gweinidog oedd yn siarad…”

Hanesion Cymry pell

Mae Rhodri Dafydd wedi bod yn clywed rhai o straeon y Cymry hyn sydd wedi ymgartrefu yn Awstralia, tra’i fod ef ei hun yn gweithio mewn bwyty Japaneaidd er mwyn talu ei ffordd yn teithio’r wlad.

“Mae yna un yma ddaeth drosodd ar gwch 61 mlynedd yn ôl… roedd yna un wedi dod heddiw o Wellington yn Seland Newydd i ddeud gair bach am be’ mae Dydd Gŵyl Dewi yn ei olygu iddo fo, ac un neu ddau arall o gymdeithas Gymreig De Tasmenia!

“Mi oedd bob un ohonyn nhw’n caru Cymru ac yn hynod falch o fod yn Gymry.”