“Does dim digon o ddathlu Cymreictod yng Nghymru,” meddai un o drefnwyr y llu o orymdeithiau Gŵyl Dewi fydd yn cael eu cynnal ledled y wlad dros y dyddiau nesaf.

Mae Siôn Jobbins wedi bod yn rhan o’r trefniadau ar gyfer Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth ers ei sefydlu yn 2013.

Dywed fod y digwyddiad yn mynd o nerth i nerth bob blwyddyn, ac mae disgwyl i tua 800 o bobol ymuno yn y dathlu dros y penwythnos (dydd Sadwrn, Mawrth 2).

Un o arferion blynyddol y parêd, eglura Siôn Jobbins, yw dathlu cyfraniad unigolyn lleol i’r Gymraeg a’i diwylliant, ac eleni Dilys Mildon, cyn-berchennog bwyty Gannet’s yn y dref, sydd wedi ei dewis yn Dywysydd.

“Mae’n bwysig i ddangos i bobol y dref – y siopau a’r cynghorwyr – bod y Gymraeg a Chymru yn bwysig i bobol Aberystwyth,” meddai Siôn Jobbins wrth golwg360.

“Mae’n dod â bach o hwyl i’r dref, bach o arian ac mae hefyd yn cryfhau’r gymuned Gymraeg yn y dref.”

Bydd y diwrnod ei hun yn cynnwys adloniant cerddorol gan Huw ‘Banjo’ ac Iwcs a Hwyl, cyn y bydd sesiwn werin rad ac am ddim yn cael ei chynnal yn nhafarn y Llew Du yn ystod y prynhawn.

Gorymdeithiau eraill

Mae disgwyl i drefi ledled y wlad ddathlu dydd nawddsant Cymru heddiw (dydd Gwener, Mawrth 1), gyda gorymdeithiau’n cael eu cynnal yng Nghaerdydd, Aberteifi a Wrecsam.

Bydd y dathlu yn parhau am weddill y penwythnos wedyn gyda digwyddiadau tebyg yn cael eu cynnal ym Mhwllheli, Bangor, Caerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan.